Mae yna nifer o fanteision yn dod gyda datblygiad fferm wynt, gan gynnwys cynhyrchu ynni glân diogel; lleihau gollyngiadau CO2 ; a helpu i ddiogelu cyflenwad ynni y wlad ar gyfer y dyfodol.
Manteision amgylcheddol
Ffynonellau ynni sydd yn cael eu hadnewyddu yn barhaol, fel golau'r haul, y gwynt, tonnau a'r llanw, yw ffynonellau ynni adnewyddadwy. O'r ffynonellau hyn, ynni o wynt yw'r dechnoleg fwyaf economeg a datblygedig ar hyn o bryd, ac mae'n adnodd ynni sydd wedi cael ei ddefnyddio ers o leiaf 2,000 o flynyddoedd.
Mae defnyddio ynni o wynt yn cynnig manteision byd-eang yn nhermau cynhyrchu trydan am ei fod heb allyriadau CO2 (y prif nwy ‘ty gwydr' sydd yn gysylltiedig â newid hinsawdd) a nwyon llygredig eraill, fel deuocsid sylffwr a ocsidiau nitrogen a all achosi glaw asidig.
Mae ynni o wynt yn cynnig ffynhonnell ynni glân, diogel, cynaliadwy sydd yn ein galluogi i leihau y gollyngiadau niweidiol hyn ac i warchod ein hamgylchedd. Mae'n hefyd yn cynnig amrywiaeth, ac o ganlyniad yn cynnig diogelwch yng nghyflenwad ynni y DU trwy leihau dibyniaeth ar y tanwydd glo, olew a nwy ffosiledig cyfyngedig o dramor.
Manteision cymunedol
Yn atodol i fanteision ehangach defnyddio ynni o wynt ar y tir yng nghyswllt diogelwch cyflenwad ac yn y blaen, mae'n bolisi ScottishPower Renewables i gynnig £2,000 / MW / y flwyddyn i gymunedau pobl yn ardal y fferm wynt, i'w defnyddio i gefnogi prosiectau.
Mae sut mae'r arian yn cael ei weinyddu yn dibynnu ar a oes gan y Cyngor polisi / protocol cymwys yn barod. Fel arall, gyda sawl un o'n safleoedd eraill mae cronfeydd ymddiriedolaeth cymunedol yn cael eu gweinyddu trwy ymddiriedolaethau cymunedol lleol. Mae'r ymddiriedolaethau wedi bod yn gyfrifol am benderfynu'r prosiectau u dderbyn budd-daliadau, ac maen nhw hefyd wedi sicrhau noddiant cydwedd.
Rydyn ni hefyd yn ceisio gosod cytundebau gyda chwmnïau isadeiledd lleol yn ystod y cyfnod adeiladu, ac mae nhw yn eu tro yn tueddu i ddefnyddio arbenigwyr lleol. Mae ein gallu i wneud hyn yn dibynnu ar fodolaeth a chaffaeledd y sgiliau arbenigol / adnoddau arbennig yn yr ardal.