Asesiad Effeithiau Amgylcheddol yw'r broses lle mae gwybodaeth amgylcheddol yn cael ei chasglu, yn cael ei chynnwys yn y cynllunio, yn cael ei chyhoeddi ac yn cael ei chymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar gais cynllunio perthnasol.
Rhan allweddol y broses Asesiad Effeithiau Amgylcheddol yw casglu gwybodaeth amgylcheddol (gan gynnwys asesiad effeithiau dichonol y datblygiad ar yr amgylchedd) a chyhoeddiad dilynol yr wybodaeth hon ar ffurf Datganiad Amgylcheddol.
Mae'r ddeddfwriaeth yn galw am asesiad a disgrifiad effeithiau dichonol sylweddol y datblygiad yn ogystal ag unrhyw fesurau lliniaru i leihau, osgoi neu leddfu effeithiau sylweddol.
Diffinio
Cafodd ymarfer pennu cwmpas cychwynnol ar gyfer Fferm Wynt Coedwig Dyfnant ei gynnal yng Ngorffennaf 2008. O dan Fframwaith y Comisiwn Cynllunio Isadeiledd (IPC), mae ymarfer pennu cwmpas pellach yn mynd rhagddo gyda’r amcan o nodi ystyriaethau arwyddocaol allweddol yn gynnar er mwyn caniatáu i’r rhain gael eu hystyried ym mhroses yr Asesiad Effeithiau Amgylcheddol.
Mae’r pynciau a gaiff sylw yn ystod yr ymarfer pennu cwpmas yn cynnwys:
• Ecoleg a chadwraeth natur
• Trafnidiaeth a thraffig
• Archaeoleg a threftadaeth ddiwylliannol
• Hydroleg a hydro-ddaeareg
• Tirlun ac amwynder gweledol
• Swn
• Telegyfathrebu
• Twristiaeth a hamdden
• Cymdeithasol-economaidd a defnydd tir
• Awyrennaeth
• Aer a hinsawdd
Am ragor o wybodaeth am y pynciau hyn, cliciwch yma i lawrlwytho dogfennau’r ymarfer pennu cwmpas.
Wrth ymgynghori, byddwn yn siarad ag amrediad eang o gyrff a rhanddeiliaid gan gynnwys Cyngor Sir Powys, cyrff statudol, cynghorau plwyf a chymunedau lleol.
Caiff cynigion drafft manwl ar gyfer y fferm wynt eu datblygu yn dilyn yr ymarfer hwn, a bydd ymgynghori pellach ar y rhain yn hwyrach yn 2011 a 2012 cyn i gais gael ei gyflwyno i'r IPC.