Islaw dyma ddetholiad o Gwestiynau a ofynnir yn Aml am ynni o wynt yn gyffredinol ac am y prosiect hwn.
1. Beth yw maint y tyrbinau sydd yn cael eu cynnig ar gyfer y fferm wynt?
Rydyn ni'n edrych ar dyrbinau hyd at uchder o 185m i flaen y llafnau, ond bydd yr asesiad tirlunol a gweledol yn penderfynu taldra'r tyrbinau y byddwn yn eu defnyddio ar y safle.
2. Sawl tyrbin sydd yn y cynlluniau?
Hyd yn hyn nid ydyn ni wedi penderfynu cynllun terfynol y safle gan bod astudiaethau amgylcheddol a thechnegol yn gyfredol. Bydd canlyniadau'r astudiaethau hyn yn penderfynu sawl tyrbin y gallwn godi ar y safle. Ar hyn o bryd rydyn ni yn cymryd bod yna le i hyd at 35 o dyrbinau.
3. O beth a wneir y tyrbinau?
Mae'r tyrrau arfaethedig yn flaenfain, pibellaidd ac o ddur, wedi'u peintio'n wyn neu yn llwyd olau. Gwneuthir y llafnau o epocsi resin gyda atgyfnerthiad gwydr ffeibr. Mae tyrbinau fel arfer yn llwyd oherwydd dyma'r lliw mwyaf anamlwg o dan y rhan fwyaf o amodau golau gwahanol.
4. Faint mor gryf mae'n rhiad i'r gwynt chwythu cyn bod y tyrbinau yn gweithio?
Mae tyrbinau gwynt yn dechrau gweithredu gyda dim ond awel ysgafn ac yn cyrraedd eu cynnyrch pŵer eithaf ar ôl 12 medr/eiliad (o gwmpas 27 milltir yr awr). Wrth gryfderau o amgylch 60 milltir yr awr mae tyrbinau gwynt yn peidio â gweithio, er mwyn osgoi niwed.
5. Beth yw bywyd gweithredol y prosiect hwn?
Yn gyffredinol mae ffermydd gwynt yn derbyn caniatâd cynllunio am 25 mlynedd, ac wedi hyn bydd yn rhaid i ni cyflwyno ail gais cynllunio neu i ddigomisiynu' safle ac ailsefydlu'r tir i'w gyflwr blaenorol. Bydd unrhyw ganiatâd yn sicr o gynnwys amodau digomisiynu sydd fel arfer yn galw am waredu pob ôl gweledol o'r fferm wynt.
6. A nad yw ynni o wynt yn ddrud iawn?
Nac ydy. Mae ynni o wynt ar y tir yn un o'r technolegau ynni adnewyddadwy rhataf mewn gwirionedd. Mae ynni o wynt erbyn hyn yn gallu cynhyrchu trydan ar bris is nag ynni niwclear yn y DU, a gan ddibynnu ar bris olew, ar bris is na thanwydd ffosiledig. Bydd ynni o'r gwynt yn rhatach byth yn y dyfodol wrth i'r dechnoleg datblygu. Bydd y ‘tanwydd' yn rhad o hyd.
7. Pam mae angen ffermydd gwynt arnom ni?
Yn 2000 gosododd y Llywodraeth targed i gynhyrchu 10% o'r cyflenwad trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2010, ac yn 2006 datganodd yr uchelgais i ddyblu'r lefel honno erbyn 2020 (ffynhonnell Adran Busnes, Menter a diwygiad Rheoleiddio/ BERR). Yn 2007, dim ond 5% o gyflenwad trydan y DU a ddaeth o ffynonellau adnewyddadwy, felly mae dringfa faith i fynd.
8. A fydd y prosiect hwn yn difetha'r tirlun?
Bydd datblygiad y fferm wynt yn newid tirlun yr ardal, ond nid yw hyn wrth raid yn newid negyddol. Yn y pendraw mae'n dibynnu ar eich barn bersonol ar dyrbinau gwynt ac eich derbyniad ohonynt fel darparwyr trydan gwyrdd. Rydyn ni yn gweithio gyda Ymgynghorwyr Tirlun proffesiynol er mwyn cyfyngu ar amhariad gweledol tyrbinau gwynt.
9. Ydy tyrbinau gwynt yn swnllyd?
Gallwch sefyll o dan dyrbin gwynt a chynnal sgwrs heb y rhaid i godi'ch llais. Mae datblygiad technegol ffermydd gwynt dros y degawd diwethaf yn golygu bod sŵn peiriannol gan tyrbinau gwynt yn ansynwyradwy bron, gyda'r prif sŵn yn sŵn swsial erodynameg y llafnau yn mynd heibio i'r tŵr. Mae llafnau tyrbinau yn troi yn gyflymach wrth i gryfder y gwynt codi, ac mae unrhyw gynnydd yn sŵn y tyrbinau yn cael ei guddio gan gynnydd yn sŵn y cefndir (sŵn y gwynt yn chwythu, coed yn sïo a.y.y.b.).
10. Ydy ffermydd gwynt yn lladd llawer o adar?
Nid yw ffermydd gwynt sydd wedi eu lleoli yn dda yn gosod bygythiad sylweddol i adar. Hyd heddiw ni welwyd effeithiau negyddol o bwys ar adar mewn cysylltiad â ffermydd gwynt yn y DU. Mae erthygl yn y cylchgrawn ‘Nature' yn ein hatgoffa mai newid hinsawdd yw'r bygwth mwyaf i fywyd gwyllt yn y DU; mae'r RSPB yn rhagweld newid hinsawdd yn effeithio'n niweidiol ar bron pob rhywogaeth yn y DU os na fydd rhwydwaith cynhwysfawr o ffynonellau ynni adnewyddadwy.
11. Ydy tyrbinau yn codi ofn ar dda byw?
Mae ffermio'r gwynt yn boblogaidd gyda ffermwyr, oherwydd gellir parhau i ddefnyddio eu tir i dyfu cnydau neu i bori da byw. Nid yw defaid, gwartheg na cheffylau yn cael eu haflonyddu gan dyrbinau gwynt. Mae gan y fferm wynt gyntaf a godwyd yn y DU gre ac ysgol marchogaeth, ac mae'r ffermwr, Peter Edwards, yn aml yn marchogaeth o amgylch y fferm wynt ar ei geffyl.
12. Beth am bobl? Faint mor ddiogel yw ynni o wynt?
Mae ynni o wynt yn un o'r technolegau ynni mwyaf diogel, ac nad yw yn cynhyrchu unrhyw ollyngiad, difwyniad niweidiol na sgîl-gynnyrch gwastraff. Cyn belled ag yr ydym yn gwybod, nid oes yr un aelod o'r cyhoedd byth wedi cael eu hanafu yn ystod gweithredu arferol tyrbin gwynt, gyda dros 25 mlynedd o brofiad gweithredu a mwy na 70,000 o beiriannau wedi'u gosod trwy'r byd i gyd.
13. Ydy ffermydd gwynt yn niweidio twristiaeth?
Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod ffermydd gwynt yn amharu ar dwristiaeth. Mewn gwirionedd, gwelir y gwrthwyneb yn aml ac mae gofyn i nifer o ddatblygwyr darparu canolfan ymwelwyr, llwyfannau gwylio a llwybrau cyhoeddus trwy eu safleoedd. Dangosodd arolwg barn MORI yn Yr Alban yn 2002 bod gan 80% o dwristiaid diddordeb mewn ymweld â fferm wynt. Mae fferm wynt fasnachol gyntaf y DU yn Delabole wedi croesawu 350,000 o ymwelwyr yn ystod y deng mlynedd cyntaf. Mae'r tyrbin yn Swaffham yn Norfolk yn mwynhau 10,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
14. A allwn ni cael trydan am ddim?
Yn anffodus nid yw hynny'n bosibl. Mae cyflenwi trydan yn ddiwydiant o dan reoleiddiad ac mae deddfwriaeth gyfredol yn gwahardd hyn. Oherwydd cynllun y system dosbarthu trydan cenedlaethol mae'n mwy effeithlon i gysylltu'r tyrbinau i'r rhwydwaith presennol, lle ei fydd yn cymysgu gyda thrydan a gynhyrchir gan amryw ffynhonnell cynhyrchu trydan, fel gorsafoedd pŵer nwy a glo.
15. Pa ddewisiadau arall sydd ar gael?
Mae yna nifer o ddulliau cynhyrchu trydan gan gynnwys gorsafoedd pŵer glo, olew, nwy a niwclear. Yn nhermau ynni adnewyddadwy, ffermydd gwynt ar y tir yw'r mwyaf economaidd i'w datblygu; mae ffermydd gwynt ar y môr yn cymryd mwy o amser i'w codi oherwydd bod y môr yn hanfodol yn amgylchedd mwy anghyfeillgar. Os mae ffermydd gwynt ar y môr oedd yr unig ddull o gynhyrchu trydan o'r gwynt bydd cwrdd â'n targedau ynni adnewyddadwy yn anodd iawn.
16. Pam bod yna wrthwynebiad i ffermydd gwynt?
Mae gwrthwynebiad lleol i ffermydd gwynt arfaethedig gan amlaf yn codi oherwydd bod rhai pobl yn canfod bod y datblygiad yn mynd i amharu ar y tirlun fel y maent yn gyfarwydd ag ef. Mae'r rhan fwyaf o feirniadaethau a wneir am ynni o wynt heddiw wedi'u gor-ddweud neu maent yn gelwyddog, ac yn unig yn adlewyrchu ymdrechion i daflu amheuaeth ar y dechnoleg, i anesmwytho cymunedau lleol ac i'w troi yn erbyn cynlluniau ynni adnewyddadwy. Mae grwpiau gwrth-wynt wedi llwyddo i greu ymateb gor‑gynhyrfiol a rhwygol yng nghymunedau lleol lle mae trafodaeth synhwyrol o'r materion yn cael ei hanghofio ambell waith.
17. Beth sydd yn digwydd pan mad yw'r gwynt yn chwythu?
Mae'n rhaid monitro'r rhwydwaith trydan i gadw y cyflenwad a'r galw mewn cydbwysedd ac mae'n rhaid cadw peth gallu yn barod wrth gefn rhag ofn colledion cynhyrchu pŵer sydyn.
18. Faint o amser yw hi'n cymryd i dyrbin gwynt 'ad-dalu' yr ynni y cymerodd i'w gwneud?
Bydd y fferm wynt cyffredin yn y DU yn ad-dalu yr ynni a ddefnyddiwyd i'w gwneud o fewn i chwech i wyth mis. Dros ei fywyd gweithredol bydd tyrbin gwynt yn cynhyrchu dros 30 gwaith mwy o ynni na'i gymerodd i'w wneud.
19. A fydd codi tyrbinau gwynt yn helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd?
Nid yw ffermydd gwynt yn gollwng deuocsid carbon ac maen't yn darparu ynni glân ac adnewyddadwy, yn wahanol i orsafoedd pŵer sydd yn gollwng 170 miliwn o dunelli o CO2 bob blwyddyn. Os ydyn ni yn mynd i gwrdd â thargedi y llywodraeth i dorri ar y ffigyrau hyn trwy 60% erbyn 2050 mae angen ffynhonnell ynni arnom ni nad yw yn cynhyrchu deuocsid carbon.
20. Ydy tyrbinau gwynt yn effeithio ar dderbyniad teledu?
Mewn rhai amgylchiadau anaml mae peth ymyriad â derbyniad teledu analog yn bosibl. Prif achosion y problemau yw signalau gwan sydd yn cael eu derbyn gan erialau hen neu yn wael yweiriedig. Fodd bynnag, yn gyffredinol mae'r problemau yn cael eu darganfod cyn codi'r fferm wynt ac maen't yn hawdd eu cywiro. Mae'n rhaid cofio hefyd bod y DU yn newid i deledu digidol yn gyfredol (2009 i 2012), sydd yn golygu ni fydd teledu lloeren, Sky neu signalau lloeren di-doll o'r BBC neu ITV yn cael eu heffeithio o gwbl gan ffermydd gwynt gan bod y signal yn dod i lawr o'r gofod o'r lloeren.
21. Ydy tyrbinau gwynt yn effeithlon?
Yn y DU mae tyrbinau gwynt yn cynhyrchu ynni defnyddio am o gwmpas 70 - 85% o'r amser. Wrth ei mesur yn nhermau effeithlonrwydd peiriannol, mae tyrbin gwynt yn 40% effeithlon i'w gymharu â gorsaf pŵer glo o dua 38% a pheiriant danio fewnol gyffredin o 20 - 25%.
22. A oes dylanwadau ar brisiau tai?
Mae'r Royal Institute of Chartered Surveyors wedi ymgymryd ag astudiaethau er mwyn asesi a oes yna effaith ar brisiau tai oherwydd codi fferm wynt. Yn gyffredinol mae'r arolwg yn dangos bod y cwymp mwyaf yng ngwerth tai yn digwydd ar adeg y cais cynllunio sydd yr achos gydag unrhyw ddatblygiad mawr.