Rydyn ni yn cynllunio codi fferm wynt gyda hyd at 35 tyrbin yng Nghoedwig Dyfnant yng Ngogledd Powys.
Mae'r tir sydd o dan ystyriaeth i gyd yn rhan o Goedwig Dyfnant sydd yn perchen i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru. Gwelwch gynllun ffiniau'r safle yma os gwelwch yn dda. Mae archwiliadau cyntaf wedi enwi'r ardal hon fel safle ardderchog ar gyfer cynhaeafu ynni adnewyddadwy ac mae ScottishPower Renewables ar hyn o bryd yn arwain astudiaethau dichonoldeb pellach er mwyn penderfynu ar botensial y safle.
Rhoddwyd y hawliau i geisio datblygu'r safle yn y lle cyntaf i Iberdrola (rhient-gwmni SPR) trwy broses dendro lwyddianus gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru o fewn Ardal Chwilio Strategol B TAN 8. Felly SPR yw tenentiaid y goedwig.
Yn rhan o ScottishPower mae tîm arbennig i archwilio dewis safleoedd. Maen nhw wedi mapio'r DU yn nhermau'r prif gyfyngiadau fel cyfyngiadau awerynnu, dynodiadau tirlun ac ecolegol cenedlaethol a rhyngwladol, ac i benderfynu os oes digon o allu ar y rhwydwaith trydan presennol. Mae'r DU hefyd wedi'i mapio yn nhermau cyflymder y gwynt. Gallwch weld y map hwn ar wefan NOABL. O fewn yr ardaloedd sydd wedyn ar ôl gyda'r dichonoldeb
i'w datblygu, ymgynghorir â'r tirfeddianwyr. Unwaith bod posibilrwydd i gynllunio fferm wynt, mae'r wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i'r tîm Datblygu Prosiectau. Rydym ni yn edrych ar agweddau arbennig y safle, fel yr ecoleg, treftadaeth, mynediad, ac agweddau sýn a gweledol, er mwyn penderfynu a yw'r safle yn weithredol ac yn ddewis cymwys.
Nid yw gallu cynhyrchu arfaethedig y safle wedi'i benderfynu yn llawn eto, ond wrth gymryd y cyfyngiadau hysbys ar hyn o bryd i ystyriaeth gyda faint o dir sydd ar gael, gellir disgwyl i'r datblygiad cynnwys hyd at 35 o dyrbinau gyda chyfanswm gallu cynhyrchu ar y safle hyd at 120MW. Dyma ddigon o ynni glân, gwyrdd ar gyfer tua 65,000 o gartrefi. Nid yw graddfa’r tyrbinau gwynt arfaethedig wedi cael ei sefydlu eto, ond rydym yn ystyried amryw o ddewisiadau ar gyfer tyrbinau gyda brig llafn hyd at 185 metr. Fodd bynnag, bydd maint y tyrbinau yn cael ei benderfynu gan ganlyniadau'r broses ymgynghori a'r Asesiad Tirlunol a Gweledol.
Fel rheol gyffredinol, cymerir bod hi'n costio tua £2M y tyrbin i godi fferm wynt, wrth brisiau heddiw. Mae'r ffigwr hon yn cynnwys gwneud y tyrbin, ei gludo at y safle, ei godi a'i osod, yn ogystal ag unrhyw gostau isadeiledd y safle yn perthyn i greu ffyrdd mynediad. Mae'r ffigwr hefyd yn cynnwys egnioli'r tyrbin, fydd wedyn yn ei ganiatáu i allforio trydan i'r rhwydwaith trydan. Amcangyfrifir bod y costau hyn yn cael eu had-dalu o fewn i 4 neu 5 mlynedd o weithredu.
Yn gyffredinol mae gwneuthurwyr tyrbinau gwynt yn enwi bywyd gweithredol tyrbin o 25 mlynedd ac felly, o fewn manylion unrhyw gais cynllunio byddwn fel arfer yn cyfeirio at fywyd gweithredol o 25 mlynedd. Yr ydym yn sicrhau bod y cyfnod y gofynnir amdano ar gyfer caniatâd cynllunio hefyd yn ddigonol ar gyfer adeiladu ac yn y pen draw i ddigomisiynu'r safle.
Y rhesymau pam mae'r ardal hon yn un dda ar gyfer fferm wynt:
- Cyflymdra gwynt da
- O fewn i Ardal Chwilio Strategol TAN 8
- Safle hygyrch
- Nid o fewn ardal warchodedig ddynodedig