Mae sawl rheswm dros gefnogi datblygu defnyddio ynni o wynt yn y DU, dyma rai:
- Mae'n ffordd ddiogel o gynhyrchu trydan: mae nifer o ddulliau cynhyrchu trydan eraill, fel niwclear, yn defnyddio pethau niweidiol yn ystod y broses gynhyrchu.
- Mae'n ffordd lân o gynhyrchu trydan; nid yw ynni o wynt yn cynhyrchu unrhyw ollyngiadau niweidiol.
- Mae'n ffordd gall o gynhyrchu ynni: mae'r gwynt yn rhad, yn wahanol i brisiau cynyddol tanwydd ffosiledig a'c anawsterau dichonol mewn cysylltiad â chaffaeledd tanwydd.
- Y DU yw'r wlad fwyaf gwyntog yn Ewrop.
- Ni waeth faint o ynni'r gwynt yr ydym yn ei ddefnyddio heddiw, bydd yr un cyflenwad ar gael yn y dyfodol.
- Rhagamcanir mai ynni o wynt a fydd y ffurf ynni rhataf erbyn 2020 (ffynhonnell: Comisiwn Datblygiad Cynaliadwy).
- Ar ddiwedd bywyd gweithredol fferm wynt, mae'n hawdd ei digomisiynu ac ailsefydlu'r tir i'w ddefnydd blaenorol.
Sut mae'r wlad fwyaf gwyntog yn Ewrop (y DU) yn cymharu?
Yn 2004 daeth llai na 0.5% o drydan Prydain o ynni'r gwynt. Roedd gan Yr Almaen 17 gwaith gallu cynhyrchu y DU. Yn yr un flwyddyn, gosododd Sbaen 8 gwaith mwy o allu cynhyrchu newydd a wnaeth y DU ac mae wedi dyblu ei tharged ynni adnewyddadwy i 15% erbyn 2010 (10% yw targed y DU). Mae Denmarc yn barod yn cynhyrchu 20% o'i thrydan o ynni'r gwynt ...
.. ac eto mae gan y DU 40% o adnodd ynni'r gwynt Ewrop! (ffynhonnell: Cymdeithas Ynni o Wynt Prydain / British Wind Energy Association).